CELG(4) WPL 09

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru

Ymateb gan Gareth Williams

 

Ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru i faterion yn ymwneud ag Uwch Gynghrair Cymru.

Ymateb ar ran CPD Porthmadog

Fformat newydd UGC

Er fod UGC wedi gwneud cyfraniad sylweddol at ddatblygiad pêl-droed yng Nghymru, mae consyrn mawr drwy’r gymuned bêl-droed yng Nghymru ynglŷn â fformat presennol yr Uwch Gynghrair.

Os edrychir ar rai o’r rhesymau a roir am y newid, gwelwn nad yw’r amcanion a osodwyd wedi’u gwireddu.

Y broblem fawr ers y cychwyn ydy anallu’r gynghrair i ddenu cefnogwyr mewn digon o niferoedd. Yn bendant, ni fu cynnydd arwyddocaol yn y torfeydd ers yr adrefnu. Heblaw fod dyfodiad y fformat newydd wedi cyd daro â dychweliad Bangor i’r brig, byddai cyfartaledd y torfeydd wedi gostwng yn ddifrifol. Eleni mae 16 o’r 20 torf uchaf mewn gemau lle roedd Bangor yn chwarae.

Cyfanswm y torfeydd am 2009/10 -sef cyn yr adrefnu- oedd 84,802 ond y tymor diwethaf 2010/11 65,107 aeth drwy’r gatiau. Felly, er mwyn cael cynnydd bach iawn yn y cyfartaledd, collwyd nifer fawr o gefnogwyr oedd yn arfer mynd i gemau UGC.

Gwirion iawn oedd cymryd yn ganiataol y byddai cefnogwyr y clybiau a gollodd eu lle yn UGC yn  newid a  chefnogi clybiau Uwch Gynghrair eraill.

Gyda clybiau yn chwarae ei gilydd chwech neu saith o weithiau mewn tymor, mae’n amlwg fod natur ail adroddus y gystadleuaeth yn mynd i achosi syrffed llwyr, a bydd cefnogwyr yn cadw draw.

Nid oes yna dystiolaeth chwaith fod gostwng nifer y clybiau wedi arwain at wella safonau. Daw’r fformat newydd â nifer o anghysondebau a’r gwirionaf o’r rhain ydy’r ffaith gall y clwb sy’n 6ed golli pob gêm yn ail hanner y tymor ac eto dal i orffen yn 6ed ac ennill lle yn y gemau ail gyfle a chwarae am eu lle yn Ewrop!

Mae yna dystiolaeth fod chwarae gemau ar nos Wener, dydd Sadwrn a wedyn dydd Sul yn amhoblogaidd iawn ymysg cefnogwyr a chwaraewyr. Mae angen i swyddogion gydnabod mai rhan amser ydy’r mwyafrif o’r chwaraewyr ac nad yw teithio am 4-5 awr yn dilyn gêm ar ddydd Sul a wedyn gweithio ar fore Llun yn unrhyw anogaeth i chwaraewyr talentog rhan amser arwyddo i glwb o’r Uwch Gynghrair.

Mae problemau teithio yn rhai cymdeithasol y dylai Aelodau Cynulliad gymryd sylw ohonynt gan mai yn eu dwylo hwy mae’r ateb. Er nad yw’r pellter rhwng y de a’r gogledd yn fawr, mae teithio rhyngddynt, ar y ffyrdd sydd gennym, yn gostus iawn ac yn llyncu amser. Eisoes mae’r Undeb Rygbi wedi rhoi’r gorau i gynghreiriau cenedlaethol a bydd clybiau pêl-droed unwaith eto yn edrych tua Lloegr gan fod modd iddynt deithio ar draffyrdd yno.

Wrth chwarae cyn lleied o gemau ar ddydd Sadwrn, mae UGC yn colli’r sylw a ddaw ar y rhaglenni chwaraeon ar bnawn Sadwrn.

Allan drwy’r ffenest hefyd aiff un rhagdybiaeth boblogaeth. Dyma hi, “Pe byddai clybiau yn dangos ychydig o ddychymyg a threfnu gemau ar ddyddiau heblaw ddydd Sadwrn byddai’r gefnogaeth yn cynyddu’n sylweddol.” Does yna neb yn coelio hyn bellach.

Chwilio am ateb gor syml oedd yr adrefnu. Nid yw wedi llwyddo ac mae’r alwad am bêl-droed haf yn ymgais arall ar ateb gor syml. Byddai pêl-droed haf yn dod â nifer o broblemau  sy’n debygol o arwain at fethiant arall

Yr unig rheswm am gefnogaeth nifer o’r clybiau i’r adrefnu ydy’r un hunanol, fod yr arian sydd ar gael yn cael ei rannu rhwng 12 clwb ac nid 16 neu 18.

Nid canlyniad i gynllunio gofalus ydy’r fformat ond ymateb brysiog iawn wrth iddynt fynd efo 12 clwb yn lle 10 clwb y cynllun gwreiddiol.

 

Y clybiau sy’n aelodau o’r Gynghrair, eu seilwaith a’u hadnoddau

Nid yw’r seilwaith sy’n bodoli yn un sy’n debygol o fedru cynnal clybiau proffesiynol llawn. Eithriad ydy TNS sydd wedi elwa o allu busnes Mark Harris ac wedi gosod seiliau cynaliadwy. Heblaw am y clwb hwn, mae’r ymgeision eraill wedi bod yn llawn ansicrwydd. Mae gorddibyniaeth ar un cefnogwr ariannol fel arfer yn gorffen gyda methiant. Rhaid i’r gynghrair ddal i gynnig lle i glybiau rhan amser sydd yn glybiau gwirioneddol  gymunedol. Mae gan y clybiau yma gefnogaeth eang yn eu cymunedau ac felly yn gynaliadwy.

Cyfrannu at ddatblygu chwaraewyr drwy’r academi

Gwelwyd gwelliant sylweddol mewn safonau hyfforddi diolch  i waith yr Ymddiriedolaeth Bêl-droed.

Yn anffodus, mae’r Gymdeithas Bêl-droed yn cyfyngu cefnogaeth ariannol i glybiau UGC. Mae’r 12 clwb yna yn derbyn mwy nac £20,000 yr un.

Mae gan nifer o glybiau yn yr ail reng Academi, â rhain yn cyfrannu at ddatblygiad chwaraewyr ac hefyd yn gwneud cyfraniad cymdeithasol pwysig.

Mae gan Academi Porthmadog record dda iawn gan gyrraedd Rowndiau Terfynol  Academi Cymru dros y dair mlynedd ddiwethaf. Ymunodd nifer o’u chwaraewyr ag academïau proffesiynol fel Manchester United, Everton, Wrecsam ac Amwythig.

Hefyd yn y blynyddoedd diwethaf mae’r Academi wedi ennill cystadleuaeth Cymru gyfan, Tarian Tom Yeoman, i rai Dan-11.

Mae’r Academi ‘n gwasanaethu ardal wledig eang ym Meirionnydd, Llŷn ac Eifionydd. Heblaw am fodolaeth yr Academi ym Mhorthmadog, ni fyddai’r ieuenctid gwledig yma yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau a diddordeb. Hefyd byddai pob clwb yn yr ardal yn dioddef pe byddai’n rhaid i’r Academi hon ddod i ben.

Mae darparu’r gwasanaeth hwn, mewn ardal lle nad oes fawr o gwmnïau i gynnig nawdd, ac heb yr un geiniog o gyfeiriad y Gymdeithas Bêl-droed chwaith, mewn perygl.

 

Cynllun Strategol 2012

Mae’r ddogfen hon ymysg y pethau gorau i ddod o’r Gymdeithas Bêl-droed –erioed.

Mae’r cynnig fod pob cymdeithas rhanbarthol yn mabwysiadu rheolau sydd yr un fath â rheolau’r Gymdeithas Bêl-droed ac hefyd ei bod yn defnyddio prosesau cyffredin o weithio yn un i’w groesawu. Yr un fath y cynnig fod gweithrediadau disgyblu pob gymdeithas rhanbarthol yn cael ei canoli ar Borth y Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Ond byddai cyflwyno’r rheol ‘un chwaraewr un clwb’ yn tanseilio academi mewn ardal wledig. Mae teithio yn broblem a does yna  yr un rheswm synnwyr cyffredin dros rwystro chwaraewyr ifanc i gynrychioli eu clybiau lleol ac hefyd mynychu a chynrychioli eu Academi.

Gareth Williams

[Ar ran CPD Porthmadog]